Ar ddisgwylfa uchel gribog,
Yr wyf finnau ers hir brydnawn,
Edrych am yr hindda hyfryd
'Nol cawodydd geirwon iawn,
Ac i'm hysbryd,
Trwy'r cymylau, weld y wlad.
Gwlad o heddwch, gwlad o sylwedd,
Gwlad o gariad pur di-drai;
Gwlad o wledda'r pererinion
Ar lawenydd i barhau:
Dacw'r ardal
Mae 'nghysuron oll i gyd.
Aed y nôs derfysglyd heibio,
Doed y boreu cyn b'o hir,
Pan y caffo'm henaid wledda
Yn y Ganaan hyfryd bur,
Gyda myrddiwn
O'i rai anwyl, ffyddlawn, Ef.
Tonau [878747]:
gwelir: |
On a high, ridged lookout
I have been for a long afternoon,
Looking for the delightful good weather
After very rough showers,
And for my spirit,
Through the clouds, to see the land.
The land of peace, the land of substance,
The land of pure, unebbing love;
The land of feasting of the pilgrims
On joy to endure:
There is the region
Where all my comforts are.
Let the tumultuous night pass,
Let the morning come before long,
When my soul may get to feast
In the delightful, pure Canaan,
With myriads
Of his faithful, dear ones.
tr. 2016,23 Richard B Gillion |
|